Swyddi gwag
Os ydych yn chwilio am ddechrau gwych i yrfa Nyrsio, dyma’r lle i chi. Rydym ni eisiau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod yn weithle sy’n cynnig mwynhad a boddhad. Rydym yn gwybod bod teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi yn y gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar staff a chleifion.
Hysbysebir ein holl swyddi gwag ar NHS Jobs. Ewch i’r wefan swyddi am restr lawn o’n holl swyddi gwag presennol ar gyfer pob grŵp staff a phob math o swydd. Ceir disgrifiadau swydd a manylebau person ar gyfer pob swydd ar y wefan, yn ogystal â manylion am ddyddiadau cau.