LLEOL
Gyda chanol dinasoedd bywiog, trefi marchnad yn ferw o brysurdeb, cysylltiadau cymudo ardderchog, chwaraeon o safon fyd-eang, bryniau tonnog, traethau a chefn gwlad i gyd gyda’i gilydd yn cynnig profiad byw anhygoel – mae De-ddwyrain Cymru yn denu nifer cynyddol o drigolion yn flynyddol.
Mae dinasoedd a threfi De-ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Caerffili a Bwrdeistref Torfaen yn cynnig profiad amrywiol, amlddiwylliannol, ynghyd ag adnoddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden unigryw sydd cystal â’r hyn a geir mewn unrhyw ddinas yn y DU. Mae’r rhanbarth hefyd yn gartref i rai o’r trefi a’r pentrefi gorau i fyw ynddynt yng Nghymru (cyrhaeddodd Y Fenni a Threfynwy Deg Uchaf ‘The Times’ yn 2018).
LLETY
Mae gan De-ddwyrain Cymru amrywiaeth o dai i’w rhentu neu i’w prynu sy’n addas i bob poced, chwaeth a ffordd o fyw sy’n cynnig profiad byw amrywiol. Mae’n ardal sydd ar gynnydd ac yn elwa ar gynllun Llywodraeth Cymru, Cymorth i Brynu – Cymru.
Mae gan y Bwrdd Iechyd lety preswyl tymor byr a fydd efallai ar gael i staff o dan rai amgylchiadau arbennig. Gallem hefyd roi manylion cyswllt asiantaethau llety lleol ar gais.
I gael syniad o brisiau tai yn y rhanbarth hwn, gweler isod brisiau tai ar gyfartaledd ar gyfer y gwahanol ardaloedd.
Casnewydd
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ teras – £140,831.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ pâr – £185,112.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ ar wahân – £298,641.
Blaenau Gwent
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ teras – £78,858.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ pâr – £121,290.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ ar wahân – £208,404.
Sir Fynwy
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ teras – £193,145.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ pâr – £227,847.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ ar wahân – £371,109.
Caerffili
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ teras – £140,488.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ pâr – £160,811.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ ar wahân – £256,515.
Bwrdeistref Torfaen
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ teras -120,184.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ pâr – £162,778.
- Cyfartaledd pris gwerthu tŷ ar wahân – £268,691.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.rightmove.co.uk
HAMDDEN
Methu dewis rhwng byw yn y wlad a byw yn y dref? Yn Ne-ddwyrain Cymru mae’r ddau ar garreg y drws. Mae’r gwaith adfywio parhaus yng Nghasnewydd yn cynnig brandiau’r stryd fawr, cyfadeilad hamdden, sinema aml-sgrîn a bywyd nos llawn bwrlwm. Mae hefyd yn gartref i Rodney Parade (lle gallwch weld tîm rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent yn chwarae), Felodrom Cenedlaethol Cymru a Theatr Glan yr Afon. Ceir hefyd farchnadoedd ffermwyr, gwyliau bwyd, siopau hen bethau a rhai o gyrchfannau bwyd lleol gorau Sir Fynwy.
Yn y cyffiniau hefyd ceir digonedd o atyniadau treftadaeth, gan gynnwys Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, Tŷ Tredegar, Abaty Tyndyrn, Castell Caerffili, Castell Cas-gwent a Chastell Cil-y-coed. Ceir hefyd ddigonedd o lwybrau heicio awyr agored, llwybrau beicio a thraethau i’w harchwilio.
Mae prifddinas Cymru yn agos hefyd, lle cewch fwynhau canol dinas Caerdydd ac ardal y Bae sy’n llawn bwrlwm, digwyddiadau chwaraeon o safon fyd-eang yn Stadiwm Principality, neu fwynhau sioe yng Nghanolfan y Mileniwm, yr adeilad eiconig.
ADDYSG
Mae gan Dde-ddwyrain Cymru lawer o ysgolion cyhoeddus a phreifat ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd. Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Cafodd ei Wasanaeth Cyflawni Addysg (sy’n darparu ar gyfer y rhanbarth cyfan) ei sefydlu i helpu cefnogi gwelliant parhaus a chafodd glod am godi safonau addysg ar draws y rhanbarth.
Mae’r ardal hefyd yn gartref i Gampws Dinas Casnewydd Prifysgol De Cymru (adeilad eiconig sy’n edrych dros Afon Wysg) a Choleg Gwent, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau o TAG Safon Uwch a llwybrau gradd i gyrsiau sylfaen, prentisiaethau ac addysg uwch.
TRAFNIDIAETH
Yn gyfleus iawn mae De-ddwyrain Cymru ar goridor yr M4 sy’n golygu bod cysylltiadau cymudo ardderchog ar gael sy’n cysylltu’r rhanbarth â gweddill y DU. Mae gan y rhanbarth hefyd lwybrau bysiau a gwasanaethau trenau lleol – gyda Gorsaf Reilffordd Casnewydd yn darparu llwybrau i’r rhan fwyaf o gyrchfannau ledled y DU.
I deithio’n wyrddach, gallwch fanteisio ar ddigonedd o lwybrau cerdded a beicio sydd ar gael.