CASNEWYDD
Mae’r gwaith adfywio yng Nghasnewydd, trydedd ddinas fwyaf Cymru, yn cynnig brandiau’r stryd fawr, cyfadeilad hamdden, sinema aml-sgrîn a bywyd nos llawn bwrlwm. Mae hefyd yn gartref i Rodney Parade (lle gallwch weld tîm rygbi Dreigiau Casnewydd Gwent yn chwarae), Felodrom Cenedlaethol Cymru a Theatr Glan yr Afon. Oherwydd natur gywasgedig canol y ddinas gallwch gerdded i’r rhan fwyaf o leoedd – gan gynnwys y gadeirlan eiconig, yr amgueddfa a’r oriel gelf, a’r farchnad dan do.
Blaenau Gwent
Mae Blaenau Gwent, cartref Aneurin Bevan, yn ardal wledig ar y cyfan sy’n cynnig amrywiaeth o safleoedd treftadaeth, golygfeydd mynyddig godidog a threfi yn ferw o brysurdeb sy’n rhoi naws drefol, brysur i’r fwrdeistref sirol. Wedi ei hamgylchynu gan gefn gwlad mae’r ardal hon yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, sy’n amrywio o weithgareddau awyr agored a chwaraeon dŵr ym Mharc Bryn Bach uwchben Tredegar, i’r ganolfan fowlio dan do yn Abertyleri. Mae Sinema Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr yn un o’r ychydig rai sy’n cael eu cynnal gan awdurdod lleol.
SIR FYNWY
Yn ôl papur newydd ‘The Times’ yn 2018, Sir Fynwy yw un o’r lleoedd gorau i fyw ynddo yn y DU. Mae’n sir fywiog, llawn atyniadau treftadaeth, diwylliant a hamdden. Mae Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg yn cynnig tirweddau syfrdanol, llwybrau natur a llwybrau beicio, ac mae canol prysur y prif dref yn cynnig amrywiaeth o siopau cadwyn y stryd fawr, siopau llyfrau annibynnol, siopau delicatessen, siopau hen bethau a thafarnau gastro seren Michelin. Bob mis Medi, cynhelir gŵyl fwyd yn nhref farchnad hanesyddol Y Fenni lle ceir dros 200 o stondinau’n arddangos y gorau o fyd coginio Cymru.
CAERFFILI
Wedi ei lleoli i’r gogledd o Gaerdydd, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig safleoedd treftadaeth, cefn gwlad, tirweddau trawiadol a digon o weithgareddau awyr agored.
Mae gan y brif dref, Caerffili, hanes a threftadaeth arbennig ac roedd ar un adeg yn deyrnas ganoloesol gynnar. Mae’n enwog oherwydd y castell (y mwyaf yng Nghymru), Maenordy Llancaiach Fawr (sy’n enwog am ei deithiau ysbrydion), canol tref llawn bwrlwm a rhaglen lawn o weithgareddau a hamdden.
Ceir rhaglenni celf ac adloniant trawiadol i’ch diddanu yn Sefydliad y Glowyr yn y Coed- duon ac yn y Memo, Trecelyn, ac ymysg atyniadau lleol eraill mae Coedwig Cwmcarn (lle ceir llwybrau beicio, heicio a llwybrau natur), Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd a Chamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.
BWRDEISTREF TORFAEN
Dyma un o brif safleoedd cymudo’r rhanbarth. Mae Bwrdeistref Torfaen yn gorwedd rhwng dinas fywiog Casnewydd a thirwedd odidog Sir Fynwy. Dyma gartref Canolfan Cwmbrân (yr ail ganolfan siopa dan do fwyaf yng Nghymru), Parc Pont-y-pŵl (a elwir yn lleol fel Parc y Bobl), a Big Pit – Amgueddfa Lofaol Cymru. Hefyd mae’n lleoliad perffaith ar gyfer archwilio’r llwybrau natur, llwybrau beicio a’r canolfannau gweithgareddau awyr agored yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru.