AMDANOM NI
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sefydliad GIG sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n angerddol am ofalu. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gweithle eithriadol lle gallwch deimlo yn ymddiriedol a gwerthfawr. Beth bynnag fo’ch arbenigedd neu’ch cam yn eich gyrfa, mae gennym gyfleoedd i bawb ddechrau, tyfu ac adeiladu eich gyrfa. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal acíwt, sylfaenol a chymunedol integredig sy’n gwasanaethu poblogaeth o 650,000 ac yn cyflogi dros 16,000 o staff.
Rydym yn cynnig pecyn manteision gwych a chyfleoedd hyfforddi a datblygu helaeth gyda hyfforddiant gorfodol â thâl, rhaglenni mewnol rhagorol, cyfleoedd i gwblhau cymwysterau cydnabyddedig a llwybrau gyrfa broffesiynol gan gynnwys ystod o raglenni datblygu rheolwyr. Rydym yn cynnig gweithio hyblyg ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, yn darparu cymorth iechyd galwedigaethol a chynllun uchelgeisiol ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Lles i’ch cefnogi yn y gwaith.
Mae ein strategaeth Dyfodol Clinigol yn parhau i wella a hyrwyddo gofal yn nes at adref yn ogystal â gofal ysbyty o ansawdd uchel pan fo angen. Ymunwch â ni ar ein taith i arloesi ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaeth gofal iechyd o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
GWASANAETHAU SYLFAENOL A CHYMUNEDOL
Mae Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol wrth wraidd cyflawniad y Model Dyfodol Clinigol yng Ngwent.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol i gynorthwyo poblogaeth Gwent i gynnal a gwella’i hiechyd a’i lles. Cydran graidd o gyflawni hyn yw trwy gryfhau ein perthynas a’r cymorth rhwng gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl. Mae hyn yn galluogi ein cleifion i dderbyn triniaethau amserol yn eu cartref neu’r gymuned leol.
Mae enghreifftiau o fuddsoddiad o’r fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys ein Gwasanaethau Nyrsio Ardal 24 awr, cynlluniau Cadw’n Iach i drigolion hŷn, Iechyd Integredig, a Thimau Adnoddau Cymunedol Gofal Cymdeithasol, sy’n galluogi cleifion i gael eu hasesu a’u cynorthwyo yn eu cartrefi eu hunain.
Mae agor Ysbyty Athrofaol y Faenor yn ei gwneud yn bosibl i gyflwyno gofal yn nes at gartref yn gyflym gyda buddion megis gwell gofal i gleifion, profiad gwell i gleifion ac o bosib lleihau derbyniadau i ysbytai.
Y RHAGLEN DYFODOL CLINIGOL
Beth yw’r Rhaglen Dyfodol Clinigol ?
Mae ein Strategaeth Dyfodol Clinigol yn nodi sut rydym ni’n ceisio cael cydbwysedd gwell o ran gofal drwy wneud y canlynol:
- darparu’r rhan fwyaf o ofal yn agos i’r cartref
- creu rhwydwaith o ysbytai lleol sy’n cynnig gwasanaethau diagnosis a thriniaeth arferol
- canoli gwasanaethau gofal arbenigol a chritigol mewn Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol pwrpasol.
Y Rhaglen Dyfodol Clinigol
STATWS PRIFYSGOL
Ym mis Tachwedd 2013 dyfarnwyd statws anrhydeddus Prifysgol inni, ac fe lansiwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd ym mis Mawrth 2014.
Dyfarnwyd statws prifysgol i’r Bwrdd Iechyd yn 2013 oherwydd ei fod yn gallu dangos bod gweithgareddau academaidd amrywiol a niferus yn digwydd gan gynnwys dysgu a gwaith ymchwil. At hyn, roedd cydnabyddiaeth i’r ymrwymiad i welliant a rhagoriaeth parhaus, ac i gynyddu’r ddealltwriaeth o sut i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac o ansawdd gwell. Gan adeiladu ar lwyddiannau 2013, mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi cynnal ac ehangu ystod y fath weithgareddau ac mewn sawl maes mae bellach ar flaen y gad mewn agweddau penodol o arloesi a dysgu yn y byd iechyd, er enghraifft, mewn Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd.
“‘Athroniaeth Prifysgol’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw meithrin diwylliant cryf o ddysgu, ymchwil ac arloesi, sy’n cyfrannu at waith ymarferol. Mae’r Bwrdd Iechyd yn credu y bydd y gweithgareddau hyn yn cynyddu mewn nifer ac ansawdd pan gânt eu hystyried yn weithgareddau craidd a’u cynnig i gleifion yn rhan o ofal clinigol arferol.”
Beth mae Statws Prifysgol yn ei olygu i’n Cymuned?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydnabod bod diben cael statws Prifysgol yn gwbl hanfodol; yn gyntaf at ddibenion sicrwydd fel y gall y Bwrdd Iechyd Prifysgol ddangos y bu’n llwyddiannus yn ei ymdrechion academaidd, h.y. drwy gynnig manteision o ran iechyd, lles, addysg ac adfywio economaidd er lles cleifion a’r boblogaeth; ac yn ail fel y gall y Bwrdd Iechyd Prifysgol, drwy Fwrdd Partneriaeth Academaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ddatblygu strategaeth academaidd a rhaglen waith flaengar sy’n seiliedig ar fesurau deilliant deallus, cysylltiedig â’r cleifion. Bydd hyn yn arwain yn y pen draw at ddealltwriaeth well o ‘beth weithiodd a beth na weithiodd’.
Mae’r sêl bendith i Ysbyty Athrofaol y Faenor yn rhoi egni a phwyslais newydd i drawsnewid gwasanaethau, a fydd yn gweld cyflwyno llwybrau gofal arloesol a swyddogaethau newydd. Mae statws Prifysgol a’r gweithgareddau a’r seilwaith cysylltiedig, a sefydlwyd ac a gryfhawyd yn y blynyddoedd diweddar, yn darparu’r sylfaen hanfodol ar gyfer y trawsnewid hwnnw. Mae’r diwylliant a’r arferion mae statws Prifysgol yn esgor arnynt wedi creu’r amgylchedd angenrheidiol, ac wedi paratoi’r gweithlu, i weithredu’r trawsnewid hwnnw.