LLWYBR RECRIWTIO NYRSYS A HYFFORDDWYD DRAMOR
Cymhwysedd
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar o leiaf IELTs Lefel 6.5 mewn Siarad, Gwrando, Darllen a 6 mewn Ysgrifennu neu’r OET Lefel B cyfatebol a enillwyd yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf i fod yn gymwys ar gyfer y llwybr.
Proses Asesu Cyfweliadau
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflawni asesiad cyfnod 3 llwyddiannus cyn ymuno â’r Llwybr Nyrsys a Hyfforddwyd Dramor fel yr amlinellir isod:
- Prawf Lleoliad Saesneg Ar-lein
- Asesiad Sgiliau Clinigol
- Cyfweliad
Llwybr Nyrsys a Hyfforddwyd Dramor
Nodir manylion y 3 cham ar y Llwybr isod. Gall ymgeiswyr llwyddiannus, yn dibynnu ar ble maen nhw ar y daith gofrestru, ymuno ar unrhyw gam o’r llwybr. Bydd unigolion yn gweithio fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd pan nad ydynt yn derbyn hyfforddiant.
Cam 1
- Band 3 – Uchafswm o 8 mis i ennill cymhwyster Iaith Saesneg perthnasol a CBT.
- Darperir cymorth hyfforddiant rhyngweithiol ar-lein
- Bydd methu ag ennill y cymhwyster Iaith Saesneg yn arwain at gynnig swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd barhaol yn amodol ar reolau mewnfudo’r DU, os yw’n briodol.
Cam 2
- Band 4 – Uchafswm o 8 mis i ennill OSCE
- Cymorth i baratoi ar gyfer cyflawni’r asesiad OSCE
- Gweithio mewn swydd ychwanegol.
- Bydd methu ag ennill yr OSCE yn arwain at gynnig swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd barhaol yn amodol ar reolau mewnfudo’r DU, os yw’n briodol.
Cam 3
- Band 5 ar ôl derbyn cofrestriad a rhif adnabod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Gellir gweld y swyddi sy’n wag ar hyn o bryd yn http://jobs.aneurinbevanhb.wales.nhs.uk
RECRIWTIO NYRSYS A MEDDYGON TRAMOR (SY’N BYW Y TU ALLAN I’R DU AR HYN O BRYD)
Rydym yn croesawu ceisiadau os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig sy’n byw y tu allan i’r DU ar hyn o bryd. Byddai gennym ddiddordeb mewn clywed gennych a thrafod y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â’r Bwrdd Iechyd gydag Ysbyty Athrofaol newydd y Grange yn cael ei adeiladu a’n Model Dyfodol Clinigol unigryw.
Pa un a ydych yn meddwl symud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn barhaol neu dros dro, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am y cymorth adleoli yr ydym yn ei gynnig. Os hoffech ddarganfod mwy, cysylltwch drwy e-bost:
Gellir gweld ein swyddi gwag presennol yn http://jobs.aneurinbevanhb.wales.nhs.uk
Brexit
Cliciwch yma i weld y wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau ar gyfer Brexit.
Oherwydd hyn, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu diogelu, cymaint â phosibl, rhag unrhyw darfu y gallai Brexit heb gytundeb ei achosi.
I dawelu meddyliau dinasyddion a’u cynghori gan ragweld pryderon ynghylch effeithiau posibl Brexit heb gytundeb yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi creu Paratoi Cymru. Un ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth i bobl Cymru yw Paratoi Cymru, am y camau yr ydym yn eu cymryd i baratoi ar gyfer effaith sylweddol Brexit ‘heb gytundeb’. Mae’n cynnig cyfarwyddyd a chyngor i ddinasyddion, sefydliadau a llu o sectorau ledled Cymru ar y camau y mae angen eu cymryd i baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.
Os hoffech ragor o wybodaeth am gynllun setliad yr UE, cliciwch yma.