Academi Nyrsys y Dyfodol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu llwybr gyrfa y gall ein gweithwyr presennol a gweithwyr y dyfodol ei ddilyn er mwyn dod yn Nyrsys cofrestredig. Mae’r Academi Nyrs y Dyfodol yn lwybr datblygu sy’n cefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i symud ymlaen i’w dewis faes drwy ddilyn gradd nyrsio cyn-cofrestru rhan amser neu llawn amser ym maes Oedolion, Plant, Anableddau Dysgu neu Iechyd Meddwl.
Mae gennym daith glir o ran cynnydd ar gyfer ein nyrsys o Fand 2 i Nyrs Gofrestredig. Gall Ymgeiswyr gamu ymlaen a chamu i ffwrdd o’r Academi ar ddiwedd pob cam addysg. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Dylai unigolion sydd â diddordeb yn yr Academi Nyrs y Dyfodol ond nad ydynt yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar hyn o bryd glicio ar y ddolen isod er mwyn datgan diddordeb mewn dod i wybod mwy am ein swyddi gwag neu weld posteri am fwy o wybodaeth.
NYRSIO A BYDWREIGIAETH
Pa un ag ydych chi’n nyrs sydd newydd gymhwyso neu wedi bod yn nyrsio am flynyddoedd, gall ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eich helpu i wella eich gyrfa. Fel nyrs sydd newydd gymhwyso neu sy’n dychwelyd i ymarfer, gallwn gynnig cefnogaeth drwy ein Rhaglen Taith Ragoriaeth a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu naill ai mewn un arbenigedd penodol neu ar draws ystod o arbenigeddau er mwyn cynorthwyo i ddatblygu sgiliau. Hefyd, mae gennym raglenni hyfforddiant sefydledig ar gyfer nyrsys sydd wedi’u cymhwyso dramor ac sy’n dymuno gweithio fel nyrs gofrestredig yn y DU. Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu gwych ar gyfer pobl sy’n dymuno rhagori yn eu gyrfaoedd.
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
MEDDYGOL A DEINTYDDOL
Pa un a ydych chi’n feddyg dan hyfforddiant, neu wedi bod yn y proffesiwn meddygol am flynyddoedd, gall symud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan roi hwb i’ch gyrfa. Fel meddyg dan hyfforddiant, gallwch ddewis o ystod eang o raglenni hyfforddiant ansawdd uchel sydd wedi’u trefnu i fod mor hyblyg ag sydd angen a gallwch ddysgu mewn amgylchedd cefnogol ag enw da am ymchwil o’r radd flaenaf yn y byd. Fel uwch feddyg byddwch yn gallu llunio eich gyrfa gyda chysylltiad â llywodraeth a phobl sy’n gwneud penderfyniadau
Ewch i’n hadran Darganfod De-ddwyrain Cymru i ddysgu am gyfleoedd ffordd o fyw sy’n bodoli yn ein rhanbarth.
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
GWEITHWYR IECHYD PROFFESIYNOL PERTHYNOL
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso mewn fferylliaeth, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, gwasanaethau lleferydd ac iaith, gwasanaethau orthoptydd ynghyd â dietegwyr. Edrychwch ar ein cyfleoedd cyffrous…
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
GWASANAETHAU GWYDDONIAETH IECHYD
Mae gennym ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso mewn fferylliaeth a gwasanaethau patholeg, ymarferwyr adran llawdriniaeth a chlinigwyr prosiect, edrychwch ar ein cyfleoedd cyffrous a dechreuwch ddatblygu eich gyrfa.
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
GWEINYDDIAETH
Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gynnig amrywiaeth o wasanaethau gweinyddol gan gynnwys derbynyddion, ysgrifenyddion meddygol, cynorthwywyr gweinyddol, swyddogion cyfrifon a chofnodion meddygol a cheir cyfle i ddatblygu gyrfaoedd mewn rheolaeth gyffredinol, cyllid, adnoddau dynol a gwasanaethau corfforaethol. Mae sawl cyfle i ennill sgiliau mewn ystod o swyddogaethau gweinyddol rheng flaen a chefnogol. Edrychwch ar ein swyddi sy’n wag ar hyn o bryd i gael gwybod mwy.
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
MEDDYGON TEULU, NYRSYS PRACTIS, RHEOLWYR PRACTIS A STAFF PRACTIS
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar flaen y gad o ran gweithio mewn partneriaeth gyda iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gan hwyluso gofal i ffwrdd o’r ysbyty mewn gwasanaethau yn y gymuned sy’n cynorthwyo pobl i fyw’n dda ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac ar eu telerau eu hunain, pryd bynnag y bo’n bosibl. Mae Gofal Sylfaenol yn ganolog i system iechyd a gofal cymdeithasol integredig, gan gynnig gwasanaethau meddyg teulu a chymunedol gan gynnwys nyrsio ardal a chymunedol, deintyddiaeth, fferylliaeth gymunedol, ac optometreg, yn ogystal â gwasanaethau gofal cymdeithasol, a darpariaeth trydydd sector a sector annibynnol. Rydym o’r farn bod y gweithlu yn flaenllaw yn y symudiad i’r gymuned, gan gymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o wella gofal a chanlyniadau cleifion.
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
GWASANAETHAU CYMORTH
Pa un a oes gennych brofiad, yn dymuno newid gyrfa neu newydd ymuno â’r byd gwaith, dewch i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel gweithiwr cymorth anghlinigol. Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio mewn gwahanol swyddi a lleoliadau ledled Gwent gan gynorthwyo staff clinigol i ddarparu’r profiad gorau i gleifion. Mae cyfnod cyffrous o’n blaen fel Bwrdd Iechyd wrth i ysbyty Athrofaol newydd y Grange gael ei adeiladu a’r rhaglen dyfodol clinigol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn datblygu staff ac yn cynnig cyfleoedd gwych.
SWYDDI SY’N WAG AR HYN O BRYD
GOFAL SYLFAENOL A CHYMUNEDOL
Gweithio Mewn Gofal Sylfaenol
Mae Gofal Sylfaenol yn darparu’r pwynt gofal cyntaf, ddydd a nos i dros 90% o gyswllt pobl â’r GIG yng Nghymru. Mae Meddygfeydd Teulu yn agwedd graidd ar Ofal Sylfaenol: nid hon yw’r unig elfen – mae Gofal Sylfaenol yn cwmpasu llawer o wasanaethau, gan gynnwys meddygfeydd teulu, fferylliaeth, deintyddiaeth ac optometreg. Mae Gofal Sylfaenol trwy Lywio Gofal hefyd yn cydgysylltu mynediad i bobl at amrywiaeth eang o wasanaethau yn y gymuned leol i ddiwallu eu hanghenion iechyd a lles.
Mae’r gwasanaethau cymunedol hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o staff, megis nyrsys cymunedol ac ardal, nyrsys ymateb cyflym ac ailalluogi, nyrsys practis, bydwragedd, ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymorth gofal iechyd, gweithwyr iechyd meddwl, timau hybu iechyd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, gwaedwyr, parafeddygon, cymdeithion meddygol, staff therapïau, gwasanaethau cymdeithasol, staff eraill awdurdod lleol yn ogystal â’r bobl hynny sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sefydliadau gwirfoddol niferus yn ein cymunedau. Yn ogystal â’r swyddi hyn, ceir nifer o wahanol swyddogaethau gweinyddol a rheoli hanfodol.
Darganfyddwch fwy
Gofal Sylfaenol a Recriwtio Cymunedol
FFERYLLFA
Mae fferylliaeth yn Arbenigedd unigryw; mae’n cynnig mynediad a chymorth gofal iechyd o ran lles, camau atal, triniaeth a gofal i gleifion yn unigol ar draws y system gofal iechyd gyfan.
Nod ein gwasanaeth Fferyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw darparu gofal diogel, o gartref i gartref, amserol, sy’n canolbwyntio ar y claf, er mwyn galluogi cleifion i gadw’n iach, gwella eu hiechyd, lleihau niwed a chyflawni’r arbedion mwyaf o feddyginiaethau.
Mae swyddi ar gael ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd a hyfforddiant amlsector, felly ni fu erioed amser mwy cyffrous i ymuno â’n tîm.
Darganfyddwch fwy
TRAWSNEWID GWASANATHAU CYHYRYSGERBYDOL
Mae angen unigolion brwd, angerddol arnom i sicrhau bod y newidiadau rhyfeddol hyn i ddarparu gwasanaethau Cyhyrysgerbydol (MSK) yn cael eu cyflawni gyda chleifion wrth wraidd y model.
Mae gwasanaethau MSK yn cefnogi pobl sy’n byw â chyflwr MSK neu y mae’n effeithio arnynt. Mae cyflyrau MSK yn cynnwys arthritis yn ogystal ag anhwylderau nerfol, cyhyrol a thendonau eraill sy’n gallu arwain at boen, llai o allu i weithredu a gostyngiad i les rhywun. Gallant effeithio ar dros 17 miliwn o bobl ledled y DU ac mewn poblogaeth sy’n heneiddio, mae llawer o unigolion yn byw â chyfuniad o bryderon iechyd eraill ochr yn ochr â chyflyrau MSK.
Darganfyddwch fwy